no image
Privacy Level: Open (White)

John Edwal Williams (abt. 1863 - 1934)

John Edwal Williams
Born about in Llandysilio, Sir Gaerfyrddin, Cymru, United Kingdommap
Son of [father unknown] and [mother unknown]
[sibling(s) unknown]
[spouse(s) unknown]
Died at about age 71 [location unknown]
Problems/Questions Profile manager: Corinne Morris private message [send private message]
Profile last modified | Created 5 Apr 2022
This page has been accessed 154 times.

Contents

Bywgraffiad

Jump to English

Ganwyd John Edwal Williams tua 1863 yn Llandysilio, Sir Gaerfyrddin, yn fab i Dafi Williams a Martha (Thomas) Williams.

Erbyn 3ydd Ebrill 1881, roedd yn teulu'n byw yn nwyrain Llandysilio; roedd Dafi Williams yn bostmon, roedd John yn ddisgybl-athro.

Ym 1885, daliwyd etholiad cyffredinol, ac am y tro cyntaf erioed, roedd gan fwyafrif y dynion yn y wlad yn cael pleidleisio. Cyhoeddwyd llythyr (mewn Cymraeg) gan John yn Seren Cymru ar 6ed Tachwedd 1885, yn galw ar i'w gyd-Gymru gymryd mantais o'r cyfle hwn drwy bleidleisio am "Diwygiad Tirol, Addysg Rydd, a Dadgyssylltiad" (sef y Rhyddfrydwyr).[1]

Roedd John yn ymddiddori mewn hanes - ar 28ain Tachwedd 1885, cyhoeddwyd hanes a gasglwyd ganddo gan ddynes yn Hwlffordd am Syr Arthur Owen o Orielton, Sir Benfro, yn teithio i Lundain a pleidleisio dros ddewis Siôr o Hanofer yn frenin dros Brydain Fawr.[2]

Yn dilyn addysg gartref, cystadlodd John ym 1896 yn yr Arholiad am Ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr newydd Coleg y Gogledd, Bangor. Enillodd ysgoloriaeth £10.[3]

Yn Rhagfyr 1899, diymswyddodd John fel athro cynorthwyol yn ysgol y Sir, Ddinbych,[4] a chael ei benodi'n brifathro gan Fwrdd Ysgol Hwlffordd.[5][6]

Priododd John ag Angharad Elizabeth Jones yn ardal Bangor ym 1900. Casglwyd rhoddion ymysg pobl oedd yn gysylltiedig ag Ysgol Prendergast, a phrynwyd "timepiece" (cloc neu wats) a'i roddi i John fel anrheg priodas.[7]

Yn Chwefror 1901, derbyniodd John glod am yr hyn a gyflawnwyd ganddo yn ysgol bechgyn Prendergast yn ystod y 12 mis diwethaf.[8]

Erbyn 31 Mawrth 1901, roeddent yn byw yn Prendergast, Sir Benfro. Ysgolfeistr oedd John; doedd ganddynt ddim plant eto.

Yn Ebrill 1901, John oedd y barnwr yn adran Llenyddiaeth cyfarfod cystadleuol Ysgol Sul Boreuol Prendergast.[9]

Ganwyd eu merch Morfydd Monica Williams ym 1902 yn Hwlffordd, Sir Benfro. Er fod John ac Angharad yn medru'r Gymraeg, Saesneg oedd iaeth yr aelwyd a'r plant.

Hefyd ym 1902, paratôdd John gwestiynau ar gyfer cystadleuaeth wybodaeth gyffredinol Eisteddfod Clynderwen,[10] a barnodd y llawysgrifen a'r arlunio yn Eisteddfod Clynderwen.[11]

I ddathlu penblwydd cyntaf Morfydd, sgrifennodd ei thaid (oedd yn byw ym Mhen'rallt Lodge, Bangor) englyn iddi ym 1903:

    Morfydd fach, leniach, eleni, -- a ddaeth
      Yn flwydd oed i'n lloni;
     Un lwys, hardd, angyles yw hi,
     Yn mwmian ar lin ei mami.[12]

Ganwyd Mary Enid Williams, merch John ac Angharad, ym 1903 yn Hwlffordd, Sir Benfro.

Ganwyd eu mab Waldo Goronwy Williams ar 30 Medi 1904 yn Hwlffordd, Sir Benfro.

Ar 10 Mawrth 1905, mynychodd John gynhebrwng y Parch David Evans, Blaenconin - arweinydd y capel lle magwyd John, mae'n debyg.[13]

Ganwyd eu mab Roger Williams ym 1907 yn Hwlffordd, Sir Benfro.

Bu farw mam John ym 1907, a'i chladdu 27 Tachwedd 1907.[14]

Bu farw tad John ym 1908; roedd John yn brifathro Ysgol Prendergast erbyn hyn.[15][16]

Ym 1909, roedd John yn un o nifer of brifathrawon yn ei ardal a ofynnodd yn aflwyddiannus am fwy o ddyddiau o wyliau adeg y Sulgwyn.[17]

Erbyn 2ail Ebrill 1911, roedd yn teulu yn dal yn byw yn Prendergast, yn yr ysgoldy; John oedd prifathro'r ysgol gynradd.

Gan fod anhwylder nerfol ar John, cafodd apwyntiad llai cythryblus yn Ysgol Cyngor Mynachlogddu, a symudodd y teulu i Fynachlog-ddu ym 1911.

Ym 1914, enillodd Morfydd y gradd uchaf yn Sir Benfro o bell ffordd yn yr Arholiad Ysgoloriaeth Mynediad. Erbyn hyn, roedd John yn cael ei ddisgrifio'n gyn-brifathro ysgol Prendergast.[18]

Yn Rhagfyr 1914, apwyntiwyd John yn brifathro Ysgol Brynconin, Llandysilio,[19] a daeth y teulu'n aelodau o gapel y Bedyddwyr, Blaenconin. Y rheswm dros symud oedd fod yn ddigon agos i Ysgol y Sir yn Narberth fel y gallai Morfydd ei mynychu.[20]

Ar 1af Ionawr 1915, cyhoeddwyd fod Mr John Gibson, golygydd y Cambrian News, yn cael ei wneud yn farchog. Sgrifennodd John Edwal at y papur i fynegu ei gefnogaeth am hyn, a'i barch hirsefydlog am Mr Gibson.[21]

Ym Mawrth 1915, ychydig o wythnosau ar ôl i'r teulu symud i Frynconin, bu farw Morfydd o deiffoid, yn 13 oed.[20]

Ym 1916, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, trefnodd John casgliad a rhodd 108 o wyau o Ysgol Brynconin ac Ysgol Babanod Clynderwen ar gyfer y "Cottesmore Convalescent Home for Soldiers". Cydnabyddwyd y rhodd yn y papur newyddion gan Commandant G. G. Philipps o dan y teitl "Cottesmore Gift List".[22]

Bu farw John ym 1934. Sgrifennodd ei fab Waldo gerdd am ei rieni a'r heddychiaeth a roddwyd iddo ganddynt, "Y Tangnefeddwyr". Mae'n disgrifio'r bardd yn cerdded adref yn y nos yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar ôl i Abertawe gael ei bomio, yn gweld fflamau'r dref yn y pellter uwch yr eira:

    "Ni châi enllib, ni châi llaid
    Roddi troed o fewn i'w tre.
    Chwiliai 'mam am air o blaid
    Pechaduriaid mwya'r lle.
      Gwyn eu byd tu hwnt i glyw,
      Tangnefeddwyr, plant i Dduw.
    Angel y cartrefi tlawd
    Roes i 'nhad y deuberl drud:
    Cennad dyn yw bod yn frawd,
    Golud Duw yw'r anwel fyd.
      Gwyn eu byd tu hwnt i glyw.
      Tangnefeddwyr, plant i Dduw.
    Cenedl dda a chenedl ddrwg -
    Dysgent hwy mai rhith yw hyn,
    Ond goleuni Crist a ddwg
    Ryddid i bob dyn a'i myn.
      Gwyn eu byd, daw dydd a'u clyw,
      Dangnefeddwyr, plant i Dduw.
    Pa beth heno, eu hystâd,
    Heno pan fo'r byd yn fflam?
    Mae Gwirionedd gyda 'nhad
    Mae Maddeuant gyda 'mam.
      Gwyn ei byd yr oes a'u clyw,
      Dangnefeddwyr, plant i Dduw.
  
      -- allan o "Y Tangnefeddwyr" gan Waldo Williams

Nodiadau Ymchwil

"Rhaid i gariad at Gymru daflu allan bob ofn. Os oes arnat ofn digio cyfaill, neu feistr, neu ddiacon, neu eglwys, neu gynnrychiolaeth, neu gymmydogaeth, neu bapyr, neu gymmanfa, neu enwad, nid ti yw y gwr... Rhaid bod yn barod i adael cyfaill, a thai a thiroedd, er mwyn Cymru. Rhaid i frawddegau golli eu dylanwad mesmerol arnat.. Clust fyddar i bob traddodiad, a gwrando ar yr hyn y mae'r Ysbryd yn sibrwd yng ngwaelod dy galon." - detholiad oddi wrth Tuag at Gymru Fydd gan Edwal gyhoeddwyd ym 1894 (yr un Edwal neu beidio?)

Biography

Neidio i'r Gymraeg

John Edwal Williams was born in about 1863 in Llandissilio, Carmarthenshire, the son of Dafi Williams and Martha (Thomas) Williams.

By April 3rd 1881, the family were living in East Llandissilio; John's father was a letter carrier, John was a pupil teacher.

In 1885, a general election was held, and for the first time ever, a majority of the men in the country had the right to vote. A letter from John (in Welsh) was published in Seren Cymru on 6 Nov 1885, calling on his fellow-Welshmen to take advantage of this opportunity by voting for the Liberals, to attain desired goals such as disestablishment of the Church and free education.[1]

John took an interest in history - on 28 Nov 1885, a story was published that had been collected by him from a woman in Haverfordwest about Sir Arthur Owen from Orielton, Pembrokeshire travelling to London and voting to choose George of Hanover as king of Great Britain.[2]

Following home education, John competed in 1896 in the Examination for Scholarships for new students at the College of North Wales, Bangor. He won a £10 scholarship.[3]

In December 1899, John resigned as assistant master of the Denbigh County School,[4] and was appointed headmaster by the Haverfordwest School Board.[5][6]

John married Angharad Elizabeth Jones in Bangor district in 1900. Money was collected among people associated with Prendergast School, and a timepiece was purchased and presented to John as a wedding present.[7]

In February 1901, John was praised for how much he had accomplished at Prendergast Boys' School in the previous twelve months.[8]

By March 31st 1901, they were living in Prendergast, Pembrokeshire. John was a board school master at Prendergast School; they had no children yet.

In April 1901, John adjudicated in the Literature section of the Prendergast Morning Sunday School competitive meeting.[9]

Their daughter Morfydd Monica Williams was born in 1902 in Haverfordwest, Pembrokeshire. Although John was a native Welsh-speaker, the language of John and Angharad's home was English and their children didn't learn Welsh in early childhood.

Also in 1902, John prepared the questions for a general knowledge competition for Clynderwen Eisteddfod;[10] and he adjudicated the handwriting and drawing in Clynderwen Eisteddfod.[11]

To celebrate Morfydd's first birthday in 1903, her grandfather (who lived in Pen'rallt Lodge, Bangor) wrote an englyn for her.[12]

John and Angharad's daughter Mary Enid Williams was born in 1903 in Haverfordwest, Pembrokeshire.

Their son Waldo Goronwy Williams was born on 30 Sep 1904 in Haverfordwest, Pembrokeshire.

On 10 Mar 1905, John attended the funeral of the Reverend David Evans, Blaenconin - presumably the minister of the chapel he grew up in.[13]

Their son Roger Williams was born in 1907 in Haverfordwest, Pembrokeshire.

John's mother died in 1907, and was buried on 27 Nov 1907.[14]

John's father died in 1908; John was headmaster of Prendergast School by this time.[15][16]

In 1909, John was one of a number of local head teachers who asked unsuccessfully for longer holidays at Whitsun.[17]

By April 2nd 1911, the family was still living in Prendergast, in the school house. John was the elementary head teacher.

Because of John's nerves, he got a less stressful job at Mynachlogddu Council School; the family moved to Mynachlog-ddu in 1911.

In 1914, Morfydd won by far the highest marks in Pembrokeshire in the Entrance Scholarship Examination. By this time, John was being described as the former headmaster of Prendergast School.[18]

In December 1914, John was appointed as head of Brynconin School, Llandysilio,[19] and the family became members of the Baptist Chapel in Blaenconin. The move was chiefly to be near enough for Morfydd to attend Narberth County School.[20]

On 1 January 1915, it was announced that Mr John Gibson, editor of the Cambrian News, was receiving a knighthood. John Edwal wrote to the paper expressing his support for the choice and his long-standing appreciation of Mr Gibson.[21]

In March 1915, only a few weeks after the family had moved to Brynconin, Morfydd died of typhoid fever, aged 13.[20]

In 1916, during the First World War, John organised the collection and donation of 108 eggs from Brynconin School and Clynderwen Infants' School for the Cottesmore Convalescent Home for Soldiers - the gift was acknowledged in the newspaper by Commandant G. G. Philipps and entitled "Cottesmore Gift List".[22]

John died in 1934. His son Waldo commemorated his parents in his poem "The Peace-makers", which describes him walking home at night during the Second World War, seeing the flames of Swansea burning in the distance over the snow and celebrating the pacifism his parents had given him:

    "Slander and abuse
    had no place in their home;
    Mam had a good word for
    even the worst ones we knew.
      Blessed are they, beyond our hearing,
      Peacemakers, children of God.
    The Angel of poor homes
    Gave to Dad the two pearls:
    Man's calling is to be a brother,
    God's riches are the invisible world.
      Blessed are they, beyond our hearing,
      Peacemakers, children of God.
    Good nation and bad nation -
    They taught this is illusion,
    But the light of Christ brings
    Freedom to all who wish.
      Blessed are they, someday they'll be heard,
      Peacemakers, children of God.
    What tonight is their state,
    Tonight with the world in flames?
    Dad has Truth
    Mother has Forgiveness.
      Blessed the age that hears them,
      Peacemakers, children of God.
  
      -- from "The Peacemakers" by Waldo Williams

Sources

  1. 1.0 1.1 https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3205719/3205725/40/edwal
  2. 2.0 2.1 https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3422897/3422902/74/edwal
  3. 3.0 3.1 https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3187947/3187952/33/edwal
  4. 4.0 4.1 https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3818110/3818117/90/edwal
  5. 5.0 5.1 https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3817615/3817619/30/edwal
  6. 6.0 6.1 https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4116922/4116924/3/edwal
  7. 7.0 7.1 https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4117067/4117069/5/edwal
  8. 8.0 8.1 https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4117252/4117254/6/edwal
  9. 9.0 9.1 https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3062800/3062803/24/edwal
  10. 10.0 10.1 https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4252385/4252393/48/edwal
  11. 11.0 11.1 https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4252372/4252380/49/edwal
  12. 12.0 12.1 https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3660215/3660220/43/edwal
  13. 13.0 13.1 https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4251709/4251717/64/edwal
  14. 14.0 14.1 https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4251188/4251196/82/edwal
  15. 15.0 15.1 https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4251377/4251383/66/edwal
  16. 16.0 16.1 https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4358641/4358647/32/edwal
  17. 17.0 17.1 https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4117572/4117575/9/edwal
  18. 18.0 18.1 https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4118312/4118315/42/edwal
  19. 19.0 19.1 https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4118402/4118404/3/edwal
  20. 20.0 20.1 20.2 20.3 https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4118467/4118469/3/edwal
  21. 21.0 21.1 https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3412629/3412635/54/edwal
  22. 22.0 22.1 https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4118747/4118750/10/edwal
  • "England and Wales Census, 1881," database with images, FamilySearch (https://familysearch.org/ark:/61903/1:1:Q2W9-5PC7 : 12 December 2017), John Williams in household of David Williams, East Llandissilio (Carmarthen), Pembrokeshire, Wales; from "1881 England, Scotland and Wales Census," database and images, findmypast (http://www.findmypast.com : n.d.); citing p. 6, Piece/Folio 5403/99, The National Archives, Kew, Surrey; FHL microfilm 101,775,481.
  • "England and Wales Census, 1901," database, FamilySearch (https://familysearch.org/ark:/61903/1:1:X9BK-6GM : 21 May 2019), John E Williams, Prendergast, Pembrokeshire, Wales, United Kingdom; from "1901 England, Scotland and Wales census," database and images, findmypast (http://www.findmypast.com : n.d.); citing Haverfordwest subdistrict, PRO RG 13, The National Archives, Kew, Surrey.
  • "England and Wales Census, 1911," database, FamilySearch (https://familysearch.org/ark:/61903/1:1:X7JR-GMQ : 23 July 2019), Angharad Elizabeth Williams in household of John Edward Williams, Prendergast, Pembrokeshire, Wales, United Kingdom; from "1911 England and Wales census," database and images, findmypast (http://www.findmypast.com : n.d.); citing PRO RG 14, The National Archives of the UK, Kew, Surrey.

https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3210546/3210549/3/edwal%20williams





Is John your ancestor? Please don't go away!
 star icon Login to collaborate or comment, or
 star icon contact private message the profile manager, or
 star icon ask our community of genealogists a question.
Sponsored Search by Ancestry.com

DNA
No known carriers of John's DNA have taken a DNA test. Have you taken a test? If so, login to add it. If not, see our friends at Ancestry DNA.


Comments

Leave a message for others who see this profile.
There are no comments yet.
Login to post a comment.

W  >  Williams  >  John Edwal Williams